Darn o awyren MH17
Mae arbenigwyr wedi llwyddo i gyrraedd y fan lle disgynnodd awyren MH-17 yn nwyrain yr Wcráin bythefnos yn ôl.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw lwyddo i gyrraedd y safle, yn dilyn nifer o ymdrechion blaenorol a gafodd eu hatal oherwydd y brwydro rhwng yr Wcráin a Rwsia.

Cafodd yr arbenigwyr fynediad i’r safle ger pentref Rozsypne y prynhawn ma, ond cafodd dryll ei danio er mwyn rhybuddio newyddiadurwyr i gadw draw.

Bydd yr arbenigwyr, sy’n cynnwys arbenigwyr fforensig o’r Iseldiroedd ac Awstralia, yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gyrff y rhai fu farw yn y digwyddiad a dod o hyd i’w heiddo.

Bu farw 298 o bobl pan syrthiodd awyren MH17 i’r ddaear yn nwyrain yr Wcrain bythefnos yn ôl.

Cadarnhaodd awdurdodau’r Wcráin fod heddiw’n ddiwrnod o heddwch yn dilyn cais am gadoediad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon.

Yn ôl newyddiadurwyr o Associated Press, mae’r brwydro’n parhau ger y safle lle mae gweddillion yr awyren.

Yn ôl adroddiadau, mae dyfeisiadau ffrwydrol wedi cael eu gosod ar y ffyrdd o amgylch y safle er mwyn cadw pobol draw.

Does dim sicrwydd eto faint o gyrff sydd ar y safle.

Yn y cyfamser, penderfynodd llywodraeth yr Wcráin i beidio derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Arseniy Yatsenyuk.

Cyhoeddodd ei fwriad i adael ei swydd yr wythnos diwethaf yn dilyn methiant y senedd i dderbyn cyfreithiau a fyddai wedi bod yn allweddol i’r ymdrechion i gadw gwrthryfelwyr sy’n cefnogi Rwsia draw.