Fe fydd diffoddwyr tân yn cynnal cyfres o streiciau fis nesaf wrth i’r ffrae tros bensiynau barhau.
Dywedodd Undeb y Frigâd Dân y byddai’r streiciau’n cael eu cynnal tros wyth niwrnod yn ystod gwyliau’r ysgol.
Bu’r undeb yn protestio ers bron i flwyddyn tros newidiadau a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Prydain sy’n golygu bod rhaid i ddiffoddwyr tân weithio shifftiau hwy a chael llai o bensiwn.
Mae’r undeb wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o wrthod cynnal trafodaethau ar y mater.
Bydd y streiciau’n dechrau ar Awst 9 ac yn para ychydig oriau bob dydd.