Ravel Morrison
Mae ymosodwr West Ham, Ravel Morrison wedi’i gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Manceinion heddiw.

Cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes – ei gyn-gariad a’i mam – y tu allan i glwb yn y ddinas, ac fe gafodd cais i’w ryddhau ar fechnïaeth ei wrthod.

Siaradodd Morrison, 21 oed, i gadarnhau ei enw a’i oedran.

Honnir ei fod e wedi taro Reah Mansoor, 19, a’i mam Parveen Mansoor, 39, yn ystod oriau mân bore Sul, ac fe gafodd ei arestio ddoe.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Awst 7.