Peter Black
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i werthu Amgueddfa Porthcawl yn weithred o “fandaliaeth ddiwylliannol”.
Daw sylwadau Aelod Cynulliad De Orllewin Cymru yn dilyn penderfyniad y cyngor i gau’r amgueddfa a gwerthu’r adeilad i’r prynwr sy’n cynnig y pris uchaf yn ystod yr hydref.
Roedd Cyngor Tref Porthcawl wedi gobeithio prynu’r adeilad, ond fe ddaeth trafodaethau â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol i ben yn gynnar heb ddatrysiad.
Dywedodd Peter Black: “Dyma enghraifft arall o ddifaterwch na chafodd ei guddio sy’n cael ei ddangos gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr tuag at Borthcawl.
“Amgueddfa Porthcawl yw’r unig amgueddfa yn yr ardal gyfan sy’n cael ei rheoli gan y sir ac mae’n rhan hanfodol o’r broses o esbonio hanes Porthcawl i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
“Mae’r ffaith y gall y Cyngor wthio 150 o flynyddoedd o hanes i’r naill ochr pan oedd opsiwn amgen ar gael yn adrodd cyfrolau am y ffordd maen nhw’n trin pobol leol.”
Dywedodd fod y ffaith fod y Cyngor yn gofyn am £150,000 am adeilad cofrestredig ar Raddfa II sydd wedi cael ei amddifadu, ac sydd angen gwerth £250,000 o waith atgyweirio, yn “ffars”.
“Ni all y fandaliaeth ddiwylliannol yma barhau.
“Mae’n bryd i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr drin Porthcawl o ddifrif am unwaith, a dychwelyd i’r bwrdd gyda chynnig rhesymol.”
Ymateb y Cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “O ganlyniad i newidiadau yn y broses o gyflwyno gwasanaethau gwybodaeth i dwristiaid, penderfynwyd y llynedd nad oedd angen yr Hen Orsaf Heddlu bellach.
“Yn anffodus, mae’r penderfyniad hwn yn effeithio ar yr Amgueddfa a’r Gymdeithas Hanes yn ogystal â Chymdeithas y Celfyddydau, sydd wedi bod yn ddefnyddwyr hirdymor o’r adeilad.
“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi ymatal rhag y broses o benderfynu ar werthu’r adeilad cyhyd â phosibl fel y gallai trafodaethau barhau â Chyngor Tref Porthcawl ynghylch a fyddai ganddyn nhw ddiddordeb i’w brynu.
“Gan ein bod ni wedi cael gwybod nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud hynny, bydd yr adeilad yn mynd ar y farchnad yn yr hydref.
“Nawr, byddwn ni’n cwrdd â’r ddau grŵp i drafod y mater ymhellach a phennu dyddiad addas er mwyn gadael yr adeilad.
“Byddwn yn parhau i drafod â’r grwpiau’n gyson ac rydym yn parhau’n ffyddiog y byddan nhw’n dod o hyd i safle arall ym Mhorthcawl.”