Mae nifer o swyddogion yr heddlu wedi mynegi pryder am weithio oriau hir yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.

Dywedodd Ffederasiwn Heddlu’r Alban eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater yn dilyn cyfres o gwynion.

Ond ychwanegon nhw fod nifer y swyddogion heddlu sydd wedi cwyno’n gymharol fach o ystyried maint y digwyddiad.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Ffederasiwn fod newid patrymau shifftiau ar y funud olaf ymhlith y prif gwynion, yn ogystal â’r amser mae’n ei gymryd i deithio o’r gwaith i ddigwyddiadau allanol.

Dywedodd: “O ystyried maint y digwyddiad yn anffodus, a’r tro cyntaf i ni gael rhywbeth fel hyn yn yr Alban, mae’n ymddangos yn broblematig iawn ac rwy’n sicr y bydd nifer o wersi i’w dysgu yn y pen draw.”

Ychwanegodd fod y swyddogion yn gwneud “gwaith aruthrol o dan amodau heriol iawn”.

“Fwy na thebyg y bydd pobol yn cael eu hymestyn i’r eithaf ryw fymryn o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud o ran adnoddau.

“Mae yna amgylchiadau weithiau nad oes modd eu hosgoi.”

Ychwanegodd y bydd gan yr heddlu ddarlun mwy cyflawn erbyn diwedd y Gemau o faint y trafferthion mae’r heddlu wedi eu cael yn ystod y gystadleuaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Alban fod lles y swyddogion yn flaenoriaeth yn ystod y Gemau.