Mae tri rhanbarth yn Lloegr wedi methu targedau amserau aros am ambiwlans yn gyson, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Yn ôl canllawiau yn Lloegr, dylai tri chwarter o’r galwadau brys mwyaf difrifol gael eu hateb o fewn wyth munud.
Ond mae’r Ganolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dweud nad yw rhanbarthau Dwyrain Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr a De Orllewin Lloegr yn cyrraedd y nod.
Mae’r galwadau mwyaf difrifol yn cynnwys cleifion y galon, cleifion sy’n methu anadlu neu sydd heb bỳls a chyflyrau difrifol eraill.
Yn ystod 2013/14, llwyddodd y gwasanaeth ambiwlans yn Nwyrain Canolbarth Lloegr i gyrraedd 71.3% o alwadau brys o fewn yr wyth munud, tra bod y gwasanaeth yn Ne Orllewin Lloegr wedi ateb 73.1% o fewn yr amser penodedig ac fe lwyddodd y gwasanaeth yn Nwyrain Lloegr i ateb 73.6% o alwadau o fewn yr amser.
Yn genedlaethol, cafodd 75.6% o alwadau brys eu hateb o fewn yr wyth munud.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr fod “gwaith i’w wneud mewn rhai ardaloedd er mwyn sicrhau bod pobol yn cael gwasanaeth cyson o safon uchel lle bynnag maen nhw’n byw.
“Ond mae’n eithaf amlwg fod ymddiriedolaethau ambiwlans o dan bwysau ac fe fydd angen i ni fynd i’r afael â hyn wrth roi arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar er mwyn helpu’r Gwasanaeth Iechyd i gyrraedd y safonau uchel y mae hawl gan gleifion i’w ddisgwyl.”