Canolfan Pontio ym Mangor
I nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf mae’r arlunydd, Bedwyr Williams, yn gofyn am luniau sydd gan y cyhoedd o aelodau o’u teulu a fu’n cymryd rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y lluniau yn cael eu cynnwys mewn cyflwyniad fideo gan Bedwyr Williams –  sydd wedi cynrychioli Cymru yn Venice Biennale – yn Siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor.

Mae’r gwaith gan Bedwyr Williams yn rhan o LIGHTS OUT – digwyddiad dramatig ledled y DU ble mae pobl yn cael eu gwahodd i ddiffodd eu goleuadau o 10  tan 11 yn y nos  ar 4 Awst, gan adael un golau neu gannwyll wedi ei gynnau i gofio’r rhai a gollwyd yn y rhyfel.

Yn ystod yr awr, bydd cyflwyniad fideo a sain Bedwyr Williams, Traw, yn cael ei gyflwyno. Mae’r gwaith yn cynnwys enwau dros 8,500 o filwyr, morwyr ac awyrenwyr o siroedd Gogledd Cymru a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd yr enwau a delweddau yn cael eu taflunio ar wal Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor gan greu cyswllt rhwng y gorffennol a gobeithion y dyfodol.

‘Aberth personol’

Meddai Bedwyr Williams, arlunydd preswyl Pontio: “Ni fydd Traw yn cynnwys unrhyw wisgoedd milwrol na gwahaniaethu rhwng milwyr cyffredin a swyddogion; yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ar wynebau’n unig.

“Bydd hyn yn dadlennu rhywfaint o bersonoliaeth yr unigolion a’u haberth personol mewn rhyfel lle mesurwyd marwolaethau mewn miliynau.”

Gall unrhyw un gyfrannu lluniau o aelodau o’u teulu a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy anfon copïau wedi’u sganio i info@pontio.co.uk neu ddod â lluniau i Siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor i gael eu sganio.