Benjamin Netanyahu
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi dweud bod ei lywodraeth yn barod i ddinistrio twnelau Hamas yn Gaza.

Byddai gweithred o’r fath yn torri amodau cadoediad ond dywed Netanyahu nad yw’n fodlon derbyn cytundeb sy’n ei atal rhag dinistrio trywydd gwrthryfelwyr Gaza i mewn i Israel.

Sefydlodd Israel gyrch awyr ar Orffennaf 8 mewn ymgais i frwydro’n ôl yn erbyn rocedi oedd yn cael eu tanio o Gaza gan Hamas.

Lledaenodd yr ymgyrch ar Orffennaf 17 wrth i filwyr troed geisio atal Hamas rhag llifo i mewn i Israel trwy rwydwaith gymhleth o dwnelau.

Mae mwy na 1,360 o Balestiniaid wedi eu lladd ers i’r ymladd ddechrau, a 56 o filwyr a thri o bobl gyffredin wedi’u lladd yn Israel.