Roedd mwy na 200 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr wedi ffoi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi.

Gwnaeth 225 o garcharorion ffoi o garchardai, sy’n gynnydd o 21 ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd 137 o’r carcharorion mewn carchardai agored, sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y rhai sy’n ffoi.

Y carcharor amlycaf i ffoi eleni oedd Michael Wheatley – neu’r ‘Skullcracker’ oedd wedi ffoi o garchar Standford Hill yn Ynys Sheppey yn Swydd Gaint.

Mae’r ystadegau’n dangos bod 90 o garcharorion oedd wedi ffoi yn ystod y degawd diwethaf yn dal heb gael eu darganfod erbyn diwedd mis diwethaf.

Dydy 79 arall ddim wedi dychwelyd ar ôl cael eu rhyddhau dros dro yn y cyfnod ers 2004.

Yn ôl y ffigurau, mae un carcharor yn diflannu o’r carchar bob dau ddiwrnod.

Er y cynnydd blynyddol, 225 yw’r trydydd nifer lleiaf ers i’r ystadegau ddechrau cael eu cofnodi yn 2004.