Mae awyren Malaysia Airlines oedd yn cludo 295 o bobol wedi cael ei saethu i lawr tros ddwyrain yr Wcráin, yn ôl adroddiadau.

Roedd lluniau teledu’n dangos mwg yn yr awyr.

Mae lle i gredu bod yr awyren yn teithio o Amsterdam i Kuala Lumpur ar y pryd.

Cadarnhaodd Malaysia Airlines eu bod nhw wedi colli cyswllt â’r awyren Boeing 777-200.

Yn ôl adroddiadau, dywedodd un o Weinidogion Llywodraeth yr Wcráin ei bod wedi cael ei saethu i lawr ac mai Rwsia sydd ar fai.

Mae ymosodiadau o’r fath ar awyrennau’n gyffredin yn y wlad.

 

Dyma’r ail ddigwyddiad yn ymwneud ag un o awyrennau Malaysia Airlines eleni.

Ym mis Mawrth, diflanodd awyren gyda 239 o bobol arni ac mae’n parhau ar goll.