Clegg - condemnio'r 'pennau bach'
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr wedi gwrthdaro tros ddau bolisi sylfaenol wrth i’r straen gynyddu rhyngddyn nhw o fewn blwyddyn i Etholiad Cyffredinol.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi condemnio’r Ceidwadwyr am ystyried troi cefn ar rannau allweddol o gyfreithiau hawliau dynol Ewrop – gan gyhuddo’r Prif Weinidog David Cameron o ochr gydag arweinydd Rwsia, Vladimir Putin.
Mae’r Democratiaid hefyd yn bygwth troi cefn ar un o bolisïau canolog y llywodraeth glymblaid – y ‘dreth ar lofftydd’.
Galw am newidiadau
Maen nhw wedi galw am newidiadau i’r polisi ar ôl i ffigurau ddangos nad oedd yn cael yr effaith yr oedd y Llywodraeth wedi’i obeithio trwy orfodi pobol gydag ystafelloedd tros ben i symud i gartrefi llai.
Fe ddangosodd arolwg fod 60% o’r bobol sydd wedi eu heffeithio bellach ar ei hôl hi gyda’u rhent ac mai dim ond 4.5% oedd wedi llwyddo i gael tŷ llai.
Ond mae’r Ceidwadwyr yn mynnu bod eu partneriaid wedi cefnogi’r polisi ac na fydd yn newid cyn yr Etholiad.
Yn ôl Llafur, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn euog o “ragrith anhygoel”.
Y ‘pennau bach’ yn ennill
O ran hawliau dynol, roedd Nick Clegg yn mynnu bod y “pennau bach” wedi ennill o fewn y Ceidwadwyr.
Dyna un o effeithiau’r newid yn y Cabinet, meddai, wrth i wleidyddion rhyngwladol eu golygon – fel Kenneth Clarke a Dominic Grieve – adael y Llywodraeth.
Y gred yw fod y Twrnai Cyffredinol, Grieve, wedi dadlau yn erbyn tynnu’n ôl o’r cytundebau ar iawnderau dynol – yn ôl rhai fe allai hynny arwain at ddiarddel gwledydd Prydain o Gyngor Ewrop.
Mae’r gwrthdaro’n cael ei weld yn rhannol yn ymgais gan y Democratiaid i roi pellter rhyngddyn nhw a’r Ceidwadwyr gyn etholiad y flwyddyn nesa’.