Mae nifer fawr o gystadleuwyr gymnasteg yn debygol iawn o ddioddef o anhwylderau bwyta, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

Yn ôl yr ymchwil gan yr Athro Mike NcNamee a’r Athro Jacinta Tan, dylid cyflwyno mesurau er mwyn diogelu lles cystadleuwyr proffesiynol, gan gynnwys eu pwyso’n gyson.

Maen nhw’n rhybuddio y gall anhwylderau bwyta gael effaith corfforol a seicolegol bellgyrhaeddol, yn enwedig mewn camp lle mae pwysau mor allweddol i lwyddiant.

Hwn yw un o’r astudiaethau cyntaf o’i fath yn y DU ac fe gafodd ei gwblhau ar y cyd â British Gymnastics, y corff llywodraethol yng ngwledydd Prydain.

Roedd gofyn i’r cystadleuwyr gwblhau holiaduron am eu harferion bwyta a’u lles cyffredinol.

Roedd tipyn ohonyn nhw wedi nodi eu bod yn gofidio am eu pwysau ac roedd awgrym bod rhai yn dioddef o fathau amrywiol o iselder.

Fodd bynnag, ychydig iawn oedd wedi nodi bod ganddyn nhw lefelau hunanhyder isel.

Roedd agwedd y cystadleuwyr at bwysau’n amrywio yn dibynnu ar y math o gymnasteg maen nhw’n ei wneud – boed mewn tîm neu fel unigolion.

Ar y cyfan, cystadleuwyr benywaidd sydd fwyaf tebygol o ddioddef o anhwylder bwyta.

Mae’r adroddiad gan yr ymchwilwyr yn awgrymu nifer o fesurau ar gyfer y cystadleuwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gofalu amdanyn nhw eu hunain.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Codi ymwybyddiaeth o beryglon anhwylderau bwyta i athletwyr
  • Monitro taldra a phwysau athletwyr gan ddilyn camau penodol os yw athletwyr o dan y pwysau delfrydol

Dywedodd yr Athro Mike McNamee: “Fe gawson ni broblemau wrth wahaniaethu rhwng ymddygiad annormal yn ymwneud â bwyd ac ymddygiad sy’n cael ei feithrin ar gyfer llwyddiant ym myd chwaraeon.

“Roedd rhai athletwyr hyd yn oed yn meddwl y gallen nhw newid eu harferion bwyta yn y cyfnod cyn ac yn ystod cystadlaethau, a’u newid yn ôl yn ystod egwyl o hyfforddi, neu wedi iddyn nhw ymddeol.”

Mae corff British Gymnastics wedi croesawu’r ymchwil a’r adroddiad.