Non Stanford
I’r athletwyr sydd yn cyrraedd Gemau’r Gymanwlad mae’n daith hir a chaled – ac i ambell un mae’n rhaid iddyn nhw wynebu’r siom fwyaf.
Bu S4C yn dilyn paratoadau rhai o athletwyr Cymru dros y misoedd diwethaf, ac roedden nhw yno wrth i un o sêr mwyaf y tîm triathlon, Non Stanford, orfod tynnu yn ôl oherwydd anaf i’w throed.
Mewn dwy raglen, heno a nos Wener, mae’r camerâu yn dilyn taith chwech o athletwyr disglair ar y siwrne i Glasgow er mwyn rhoi blas ar beth sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y brig.
Maen nhw’n cynnwys rhai sydd yn gwneud eu camp yn broffesiynol yn ogystal â’r rheiny sydd yn hogi’u sgiliau yn eu hamser sbâr ac yn breuddwydio am ddyfodol ym maes chwaraeon.
Yn anffodus mae’r camerâu hefyd yno yn ystod yr adegau poenus, megis pan mae Stanford yn gwneud y penderfyniad i dynnu nôl o’r Gemau ar ôl methu â gwella o anaf i’w throed.
Stanford yw’r bencampwraig byd yn y triathlon ar ôl ennill y tlws yn Llundain y llynedd, ac roedd hi’n cael ei hystyried yn un o obeithion pennaf Cymru am fedal aur yn y Gemau eleni.
Roedd hi wedi gobeithio dychwelyd o’r anaf erbyn diwedd mis Mai, felly roedd yn siom fawr pan na lwyddodd i wella mewn pryd ar gyfer y gystadleuaeth.
Paffio a saethu
Yn ogystal â Non Stanford, fe fydd dau o athletwyr tîm Cymru sydd yn mynd i fod yn teithio i Glasgow hefyd ar y rhaglen heno.
Un yw Zack Davies, bocsiwr 22 oed o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin, sydd yn dod o deulu bocsio enwog yn yr ardal.
Bydd Davies yn bocsio pwysau light welterweight yn y Gemau, gyda’r camerâu’n dal hynt a helynt ei daith i Glasgow gan gynnwys ergyd drom i’w ben wrth baratoi yng Nghanada, a chael tynnu’i gilddant ôl deufis yn ôl – testun pryder efallai i ŵr sydd yn cael ei daro’n ei geg yn aml!
“Dwi ishe ennill medal, gobeithio aur, ac wedyn troi’n broffesiynol rhywbryd, gobeithio ar ôl y Gemau,” cyfaddefodd Zack Davies.
“’Na gyd fi’n gwybod yw bocsio. Roedd Dad yn bocsio, fy mrawd yn bocsio, a tad-cu’n arfer rhedeg gym ei hunan yn Pontyberem. Mae’n beth mawr i focsio dros Gymru. Does dim gwell peth na bocsio dros dy wlad.”
Y trydydd athletwr fydd yn ymddangos ar raglen heno fydd Coral Kennerley, saethwr pistol aer 20 oed yn wreiddiol o Landdeiniol, Ceredigion.
Yn enedigol o Nairobi, Kenya, fe symudodd hi yn ôl i Gymru pan oedd hi’n ddeufis oed, ac fe aeth y disgybl o Ysgol Penweddig ymlaen i astudio Peirianneg yng Nghaerdydd.
Pan mae hi adref mae hi’n gorfod ymarfer yn ystafell wely ei rhieni, gan sefyll yn y gawod a saethu o’r ystafell ymolchi, dros y gwely, at y targed ar y wal gan mai dyma’r unig ffordd i gael pellter o 10m!
Fe gafodd hi glefyd chwarennol deufis yn ôl hefyd, a achosodd broblemau iddi wrth baratoi, ond mae nawr yn edrych ymlaen at y cystadlu.
“Roeddwn i’n arfer gwneud triathlon yn yr ysgol – sef rhedeg, marchogaeth, saethu a nofio – a ro’n i’n dda yn saethu felly nes i benderfynu cario ’mlaen i saethu,” meddai Coral Kennerley.
“Dwi’n mwynhau e. Mae’n anodd ffitio popeth mewn, stwff coleg ac ymarfer, a dwi ddim wedi bod yn iach chwaith. Ond os mae’r canlyniadau yn dod, bydd e gyd werth e.”
Bydd Gemau’r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow ar S4C heno am 9.30yh, gyda’r ail raglen nos Wener am 9.30yh.