Kizzy Crawford
Mae’r gantores o dde Cymru, Kizzy Crawford, wedi gorfod canslo ei holl gigs dros yr haf oherwydd salwch.

Dywedodd ar ei chyfrif Facebook ei bod wedi dioddef o ffliw sydd wedi arwain at haint yn ei gwddf, a’i bod wedi cael ei chynghori i orffwys ei llais.

Roedd disgwyl i’r gantores 18 oed o Ferthyr Tudful berfformio yn Ngŵyl Arall yng Nghaernarfon dros y penwythnos, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym mis Awst ac roedd hi ymhlith yr artistiaid Cymraeg gafodd eu dewis i berfformio yng Ngwyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ym mis Medi.

Mewn sylw ar ei gwefan gymdeithasol dywedodd: “Mor siomedig fy mod i’n colli shwt gymaint o gigs haf yma. Mae ffliw drwg wedi achosi haint yn fy ngwddf syn meddwl bydd angen i fi gorffwys.

“Felly dw i bant i’r Iwerddon i wella. Gobeithio chi’n cael haf gwych a byddai nol yn fuan!”

Fe fuodd Kizzy Crawford yn chwarae yn Glastonbury y mis diwethaf, ac mae hi hefyd un o’r 12 artist Cymraeg sy’n rhan o brosiect cerddorol Gorwelion eleni.