Mae disgwyl i fwy na 400 o swyddi gael eu colli yn y BBC wrth i’r Gorfforaeth geisio arbed miliynau o bunnoedd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Cafodd staff wybod am y cynllun mewn cyfarfod ym mhencadlys y BBC yn Llundain, yn ogystal â chynlluniau i greu swyddi newydd.

Mae disgwyl i oddeutu 190 o swyddi newydd gael eu creu, ond fe fydd 415 yn cael eu colli o fewn yr adrannau newyddion a materion cyfoes.

Gallai 79 o swyddi gael eu colli o fewn yr ystafell newyddion, gan arbed £11 miliwn, yn ogystal â 53 o swyddi o fewn yr adran casglu newyddion, gan arbed £6 miliwn.

Fel rhan o’r cynlluniau, fe fydd timau cynhyrchu rhaglenni’r BBC yn cyfuno.

Bydd pump o swyddi’n cael eu colli yn yr adran raglenni, gan arbed £3 miliwn, tra bydd 105 o swyddi’n cael eu colli yng ngwasanaeth y World Service.

Bydd cau rhai o swyddfeydd allanol y BBC yn arbed £1.5 miliwn, tra bydd dwy swydd yn cael eu colli yn y rhaglenni gwleidyddol.

Bydd buddsoddiad o oddeutu £4 miliwn yng ngwasanaethau digidol y Gorfforaeth, tra bydd £38 miliwn yn cael ei wario ar newyddiaduraeth “wreiddiol a nodweddiadol”.

Bygwth streicio

Mae staff sydd wedi cael eu heffeithio gan y cynlluniau yn bygwth streicio wedi i Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) feirniadu’r BBC.

Cyhuddodd llefarydd ar ran yr NUJ y BBC o “ddefnyddio arian talwyr y drwydded i ariannu’r taliadau diswyddo”.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb y technegwyr, Bectu y byddai’r swyddi’n cael eu colli cyn i staff newydd gael eu penodi, ac y byddai staff y Gorfforaeth yn streicio pe bai hynny’n digwydd.

Mae newyddiadurwyr a thechnegwyr eisoes wedi trefnu streic 12 awr ddydd Mercher nesaf, ar ddiwrnod agoriadol Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow.