Mae adroddiad blynyddol S4C ar gyfer 2013-14 yn dweud fod llai o siaradwyr Cymraeg yn gwylio’r sianel bob wythnos ond bod “cynnydd trawiadol” wedi bod yn nifer y bobol sy’n gwylio’n achlysurol drwy Brydain.

Un o gasgliadau eraill yr adroddiad yw bod y gwasanaeth wedi gorfod addasu’n “sylweddol” i ymdopi â’r cwtogiad ariannol maen nhw wedi ei wynebu ers 2011.

Er y toriadau, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n gwylio’n flynyddol, gyda 6.5 miliwn yn gwylio yn 2013 – o’i gymharu â 5.3 miliwn yn 2012.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, y brif her i’r sianel yw denu’r bobol sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn achlysurol i ddychwelyd yn amlach i wylio cynnwys S4C.

Dyma’r Adroddiad Blynyddol cyntaf i S4C ei gyhoeddi ers i’r Cytundeb Gweithredu rhwng yr Awdurdod ac Ymddiriedolaeth y BBC ddod i rym ar 1 Ebrill 2013 – lle mae rhan fwyaf o incwm cyhoeddus S4C wedi ei ddarparu gan y BBC o ffi’r drwydded.

Huw Jones

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C, meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae’r Awdurdod yn credu fod S4C wedi gwneud yn dda iawn yn greadigol wrth wynebu newidiadau mewn demograffeg ieithyddol, wrth sicrhau arbedion sylweddol i ddygymod a’r gostyngiad cyllid sylweddol y mae wedi ei wynebu ers 2011.

 “Mae’r gwasanaeth wedi cael ei werthfawrogi’n gyson gan siaradwyr Cymraeg a gan nifer sylweddol o wylwyr di-gymraeg.

Wrth gyfeirio at y lleihad yng nghyrhaeddiad wythnosol S4C, dywedodd:

“Gellir priodoli llawer o hyn i’r ffaith nad ydym yn gallu prynu’r hawliau i ddarlledu chwaraeon o safon uchel i’r un graddau ag o’r blaen, o ganlyniad i gystadleuaeth ffyrnicach, sy’n debygol o barhau.

“Mae gwylio gan siaradwyr Cymraeg, fodd bynnag, yn fwy cyson, tra mae yna gynnydd trawiadol wedi bod yn nifer y gwylwyr achlysurol ar draws Prydain wnaeth ddefnyddio’r gwasanaeth rywbryd yn ystod y flwyddyn.

Heriau creadigol

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Rydym wedi gweld newidiadau sylweddol a phellgyrhaeddol yn S4C yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, a bydd llawer mwy o heriau creadigol ac ymarferol yn ystod y flwyddyn i ddod.

“Y brif her yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf posibl i’r gynulleidfa ehangaf posibl ar ystod eang o lwyfannau a dyfeisiau.”

 Canfyddiadau

Dyma restr o’r prif ganfyddiadau ar gyfer 2013/14:

  • Cafodd y sianel ei gwylio gan 6.5 miliwn o bobol drwy Brydain yn 2013 (sydd wedi codi o 5.3 miliwn yn 2012)
  • Bu i 5.2 miliwn o bobol wylio’r rhaglenni ar-lein (sydd wedi codi o 2.8 miliwn yn 2012)
  • Fe wnaeth 1.2 miliwn o bobol wylio rhaglenni o ddigwyddiadau’r flwyddyn ar deledu
  • Mae 194,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy’n gwylio ar gyfartaledd bob wythnos, sy’n llai na’r 216,000 oedd yn gwylio’n 2012.
  • Mae’r siaradwyr Cymraeg yn gwylio’r sianel am 8 awr 4 munud bob wythnos (2012: 7 awr 3 munud)
  • Mae 224,000 o ymweliadau â gwefan S4C bob mis (2012: 201,000)