Ian Jones, Sajid Javid a Huw Jones
Mae Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain, Sajid Javid wedi bod ym mhencadlys S4C yn Llanisien heddiw.

Dyma’r tro cyntaf iddo ymweld â’r sianel ers iddo gael ei benodi.

Bu’n cyfarfod â’r Prif Weithredwr, Ian Jones a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones ac fe gafodd flas ar y gwaith sy’n cael ei wneud ac ar gynnwys diweddar yr amserlen.

‘Gobeithion’

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: “Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i bencadlys S4C yn Llanisien heddiw.

“Ar ei ymweliad cyntaf ers ei benodi, roedd heddiw yn gyfle i ni roi blas iddo ar ddarlledu yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â thrafod ein gobeithion a’n blaenoriaethau wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sianel.

“Mae’n angenrheidiol ein bod yn cynnal perthynas agos gyda’r Ysgrifennydd Gwladol a’i adran yn Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau ei fod ef a’i swyddogion yn ymwybodol o’r gwaith da sy’n digwydd yma, ac ar draws y diwydiant annibynnol yng Nghymru, a phwysleisio cyfraniad unigryw S4C i ddiwylliant ac economi Cymru.

“Cafwyd geiriau cadarn o gefnogaeth ganddo i bwysigrwydd y gwaith hwn.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyd-weithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C.”