Cai Wilshaw
Mae digon o wybodaeth a safbwyntiau ar y we bellach, fel mae Cai Wilshaw’n esbonio …
Yn fy nghartref yn Nhreganna, Caerdydd, dwi’n clywed seirenau awyr Tel Aviv a Jerwsalem yn seinio.
Does dim bomiau wedi cwympo ar ddinasoedd Cymru ers degawdau, ond mae hi’n sefyllfa sydd yn wirionedd i filoedd o drigolion Israel a Llain Gaza sydd wedi goddef yr wythnos diwethaf, yn gofyn bob tro – pryd daw diwedd i’r gormes?
Mae’r seirenau awyr yma yn seinio oddi ar yr ap newydd ar fy ffon, o’r enw ‘Red Alert’. Mewn byd sydd yn gynyddol rwydweithiol, mae’r hyn sydd yn digwydd ar ochr arall y byd yn ein heffeithio ni yma yng Nghymru, a does dim esgus i fod yn anwybodus o wrthdaro gwledydd tramor.
Mae technoleg y ddegawd ddiwethaf wedi ein galluogi i weld digwyddiadau’r byd yn datblygu ar y sgrin fechan yn ogystal ag ar benawdau’r papurau newydd.
Newyddion y byd
Yn gyntaf, mae gennym fodd i ddarllen erthyglau a sgwennwyd gan newyddiadurwyr o bob cornel y byd, boed yn Llain Gaza, Efrog Newydd neu Beijing. Rydym ni’n lwcus yma ym Mhrydain i gael gwasg rydd i raddau helaeth, er gwaetha’ grym gorthrymedig Rupert Murdoch.
Er hyn, yr wythnos hon fe welsom fod tuedd ein papurau newydd ni yn parhau; er i nifer y meirw yn Gaza gynyddu, fe bwysleisiwyd dro ar ôl tro ymdrechion Benjamin Netanyahu i sicrhau cadoediad rhyngddo fe a Hamas.
Bu miloedd o bobl yn Llundain, Manceinion a Lerpwl yn protestio yn erbyn tuedd y BBC wythnos yma o blaid Israel. Hyd yn oed yn fwy diddorol yw cael golwg ar benawdau’r newyddion Saesneg yn Israel, megis Times of Israel neu Haaretz.
Prin yw’r sôn am dynged y Palestiniaid, ond digonedd ynglŷn â’r rocedi sydd wedi llwyddo i ddianc system amddiffyn ddrud Israel y ‘Gromen Haearn’.
Fe geir adroddiad gyfan gwbl wahanol oddi wrth y wasg Arabaidd ryngwladol. Yng ngwasg Twrci, ceir sôn am honiad eu Gweinidog Tramor bod rhyfela Israel yn gymesur â throsedd yn erbyn dynoliaeth.
Yn India, mae’r papurau’n haeru mai ‘gormes Iddewig’ ydy digwyddiadau’r wythnos diwethaf. Er i wleidyddion y Dwyrain bardduo’r bomio parhaol ar Gaza gan Israel, does dim sôn am yr un bomio yn y wasg Orllewinol.
Propaganda’r we
Yn ogystal â newyddion, fe ddaw’r rhyngrwyd â safbwyntiau eraill unigryw yn syth i’n pocedi, sef safbwyntiau’r IDF (Israel Defence Forces) yn Israel a byddin Hamas yn Llain Gaza. Mae defnydd y rhyngrwyd gan y ddwy garfan i ledu eu neges wedi bod yn gryn effeithiol, gyda’r BBC yn ei alw’n ‘cyber battle for hearts and minds’.
Ar gyfrif Twitter yr IDF, fe geir llu o ddelweddau’n dangos y pamffledi mae Israel yn eu gollwng yn Llain Gaza i arbed bywydau trigolion yr ardal, neu’n atgoffa eraill eu bod nhw’n parhau i gyflenwi Llain Gaza gyda bwyd a thanwydd.
Mae’r postiau yma’n aml yn cael eu hail-bostio dros fil o weithiau. Yn ychwanegol i’w cyfrif Twitter, mae’r IDF hefyd yn cadw cyfrif byw ar eu gwefan o nifer y rocedi sydd wedi’u saethu tuag at Israel ers i’r gormes ddechrau wythnos dwetha’.
Yn yr un modd, mae Hamas wedi lansio eu hymgyrch gwrth-Israel ar y rhyngrwyd, gan bostio lluniau a fideos o ddinistr erchyll Llain Gaza. Mae cyfrif Hamas eisoes wedi cael ei wahardd oddi ar Twitter.
Ond ar Facebook hefyd, fe lwyddodd rhai o ymgyrchwyr Hamas i gymryd drosodd cyfrif Dominos Pizza yn Israel, yn rhybuddio pobl y byddai 2000 o rocedi yn taro Israel dros y dyddiau nesaf.
Er ei fod yn dacteg llwyr wahanol i’r IDF, mae eto’n cynnig safbwynt gwahanol ar y sefyllfa nad ydym erioed wedi cael gweld. Am y tro cyntaf, mae gennym ni’r adnoddau i brofi’r hyn mae trigolion Israel a Llain Gaza yn ei brofi, i ddarllen propaganda’r ddwy garfan o ddydd i ddydd.
Felly yng nghysur eich cartrefi, peidiwch ag anwybyddu digwyddiadau ofnadwy’r dyddiau diwethaf – dim ots pa garfan yr ydych chi’n ei gefnogi.
Mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid ein gallu i ffurfio ein barn am y byd, ac i leisio’r farn yma’n fwy croch. Peidiwch â’i anwybyddu.
Mae Cai Wilshaw’n astudio’r Clasuron yng ngholeg St Anne’s, Rhydychen. Gallwch ei ddilyn ar Twitter ar @Caiwilsh.