Mae’r brwydro rhwng Gaza ac Israel wedi parhau er gwaethaf ymgais i ddod â’r anghydfod i ben.
Cafodd nifer o daflegrau eu hanelu at Israel o gyfeiriad Gaza dros nos, ddwy awr yn unig ar ôl i’r cadoediad ddechrau.
Roedd disgwyl i’r cadoediad dyngarol rhwng Israel a Hamas bara pump awr yn dilyn cais gan y Cenhedloedd Unedig fel y gallen nhw sicrhau bod nwyddau’n cyrraedd y trigolion yn ddiogel.
Ond parhaodd y taflegrau i daro Israel, gan lanio ar dŷ a lladd o leiaf dri o bobol.
Mae 15 o rocedi wedi cael eu lansio yn Israel, ac fe lwyddodd yr awdurdodau i atal ymosodiad gan 13 o wrthryfelwyr oedd wedi ffoi o Gaza i Israel.
Hyd yn hyn, mae mwy na 220 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod y brwydro, yn ôl swyddogion.