Llys Hawliau Dynol Ewrop
 Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr brysuro’u cynlluniau i gwtogi ar rym y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd yn y DU.

Mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu cynnwys amlinelliad o’u cynlluniau yn eu maniffesto ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil colli dau o aelodau’r Cabinet sy’n frwd eu cefnogaeth i Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol – Kenneth Clarke a’r cyn-Dwrnai Cyffredinol Dominic Grieve.

Collon nhw eu swyddi’r wythnos hon wedi i’r Prif Weinidog David Cameron benderfynu ad-drefnu ei Gabinet.

Bellach, fe fyddai’r ffordd yn glir i Cameron ymgyrchu tros ddiwygiadau radical, ac fe allai olygu tynnu allan o’r Confensiwn.

Dydy hi ddim yn debygol y bydden nhw’n llwyddo i dynnu allan o’r Confensiwn ar hyn o bryd, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gefnogwyr brwd o’r drefn bresennol.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Chris Grayling wrth BBC Radio 4: “Byddwn yn cynhyrchu ein pecyn cyntaf maes o law ond cyn yr etholiad ac mewn da bryd ar gyfer ein maniffesto etholiadol.

“Byddwn yn cwtogi ar rôl y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn y DU.

“Byddwn yn disodli Deddf Hawliau Dynol Llafur.”

Dydy’r Confensiwn ddim yn boblogaidd ymhlith Ceidwadwyr, yn enwedig o ganlyniad i nifer o benderfyniadau, gan gynnwys rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio.

Mae Ken Clarke a Dominic Grieve wedi rhybuddio y byddai gadael y Confensiwn yn niweidio enw da Prydain ac yn tanseilio hawliau dynol o amgylch y byd.