Mae elusen Sustrans wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn sgil eu penderfyniad i fuddsoddi £1 biliwn i ddatblygu rhan o’r M4 ger Casnewydd.
Maen nhw’n dweud mai’r “flaenoriaeth anghywir” yw bwrw ymlaen gyda’r cynllun hwn.
Bwriad y ffordd newydd, a fydd yn cael ei hadeiladu rhwng cyffordd 23 a 29, yw ceisio lleihau’r pwysau ar yr M4 i’r de o Gasnewydd a rhoi hwb i’r economi.
Mae disgwyl i’r ffordd gael ei chwblau erbyn 2022.
Ond yn ôl Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru, Jane Lorimer: “£1 biliwn ar gyfer adran newydd o’r draffordd yw’r flaenoriaeth drafnidiaeth anghywir i Gymru”.
Mae cryn feirniadaeth wedi bod eisioes gan y gwrthbleidiau bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud cyn i’r Pwyllgor Amgylchedd gyhoeddi ei adroddiad ar y mater.
Mewn datganiad, dywedodd Jane Lorimer: “Rhaid i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fod yn flaenoriaeth ar gyfer adeiladu economi gynaliadwy ac effeithlon, ond nid oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr angen am gynllun ffyrdd wrth gefn ar gyfer yr M4 wedi ystyried cynigion eraill a fydd yn lleihau’r galw, megis y rhaglen Metro, neu dystiolaeth sy’n dangos bod llai o bobol erbyn hyn yn defnyddio ceir.”
Ychwanegodd fod rhan helaeth o deithiau ar y rhan hon o’r draffordd yn deithiau byr a lleol ac y gallai “buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo a cherdded fod wedi cynyddu capasiti ar y draffordd i’r sawl sydd ei hangen”.
“Yn hytrach, fe fydd cynyddu’r capasiti ar yr M4 yn parhau i roi mwy o geir ar ein ffyrdd, sy’n debygol o gynyddu’r oedi ac allyriadau niweidiol.
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus wrth galon dinasoedd modern sy’n ffynnu ac wrth i nifer o bobol yng Nghaerdydd a Chasnewydd a’r cyffiniau stryffaglu i fforddio costau bod yn berchen ar gar a’i redeg, does dim byd yn y cynllun hwn a fydd yn eu helpu nhw.”
Metro
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ystyried a yw’n fforddiadwy i adeiladu rhan newydd o’r draffordd ochr yn ochr â’r Metro.
Ychwanegodd: “Rhaid esbonio goblygiadau’r penderfyniad ariannu hwn ar flaenoriaethau trafnidiaeth sydd eisoes wedi’u cytuno ar gyfer y dyfodol.”