Gweddillion mosg wedi ymosodiad gan awyrennau Israel (Llun: AP/Hatem Moussa)
Mae dros 120 o bobl a phlant wedi cael eu lladd a dros 900 wedi eu hanafu erbyn hyn wrth i awyrennau Israel barhau i ymosod ar Lain Gaza.

Mae’r berthynas rhwng Palesteina ag Israel wedi mynd o ddrwg i waeth yn dilyn llofruddiaeth tri llanc ifanc o Israel ac un o Lain Gaza.

Lladdwyd dwy ddynes wedi i awyrennau Israel ymosod ar fosg a chanolfan i’r anabl.

Yn ôl swyddogion Israel roedd rocedi tebyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio i ymosod ar Israel yn cael eu cuddio yn y mosg.

Mae ymgyrchwyr yn Gaza wedi saethu bron i 700 o rocedi at dargedau yn Israel hyd yma ac oherwydd yr ymosodiadau mae llywodraeth Israel yn ystyried anfon milwyr i’r ardal.

Does neb wedi cael ei ladd yn Israel gan rocedi Hamas hyd yn hyn.

Y pryder rhyngwladol yn cynyddu

Mae rhai gwledydd wedi dweud eu bod yn anfodlon bellach efo natur a ffyrnigrwydd ymosodiadau Israel.

Mae Pri Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi addo parhau efo’r ymgyrch hyd nes y bydd yr ymosodiadau rocedi o Balesteina yn dod i ben ac mae miloedd o filwyr bellach ar y ffîn rhwng Israel a Phalesteina.

Mae arweinwyr yn Ewrop a’r Unol Daleithau wedi dweud bod gan Israel berffaith hawl i amddiffyn ei hun ond mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud eu bod yn pryderu am nifer y bobl gyffredin sy’n cael eu lladd.

Bydd gweinidogion tramor y gwledydd Arabaidd yn cynnal cyfarfod brys yn Cairo dydd LLun i drafod y sefyllfa ar gais Llywydd Palesteina, Mahmoud Abbas.