Un o'r gorymdeithiau yn Belfast (Llun:Brian Lawless/PA Wire)
Mae tri o ddynion ifanc yn gwella ar ôl cael eu trywanu yn ystod ymladd rhwng gweriniaethwyr ag unoliaethwyr yn Belfast yn ystod oriau mân y bore.

Heddiw yw’r diwrnod pan mae Protestaniaid yr Urdd Oren yn gorymdeithio i goffau buddugoliaeth y Brenin William III oedd yn Brotestant, dros y Brenin James oedd yn Babydd, ym Mrwydr Boyne yn 1690.

Mae’r gorymdeithiau yma, sydd yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gogledd Iwerddon, yn achosi trafferthion a thensiynau rhwng y cymunedau Protestanaidd a Gweriniaethol mewn rhannau o Belfast yn flynyddol.

Mae dros 3,000 o heddlu ar ddyletswydd yn Belfast ar gyfer y gorymdeithiau heddiw, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ardal babyddol Ardoyne.

Mae Uwch Feistr yr Urdd Oren wedi galw ar Brotestaniaid i beidio taflu na cherrig na photeli at brotestwyr Pabyddol gan ddweud y buasai gwneud hynny “yn golygu syrthio i drap gweriniaethol.”

Ychwanegodd Edward Stevenson bod y Deuddegfed o Orffennaf yn “ddathliad unigryw o’n diwylliant, ein crefydd a’n hunaniaeth.”

Mae’r gorymdeithiau wedi cael eu dynodi yn ‘Orangefest’ yn ddiweddar er mwyn ceisio denu twristiaid.