Ysbyty Wootton Lawn, Caerloyw (Llun: PA)
Cafodd dyn ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Cheltenham ar gyhuddiad o lofruddio cymhorthydd iechyd mewn ysbyty seiciatrig yng Nhgaerloyw dydd Mercher diwethaf.
Bydd Ryan Mathews, 61 oed o Ysbyty Wootton Lawn yn ymddangos gerbron LLys y Goron Caerloyw ar 15 Gorffennaf.
Yn ystod y gwrandawiad barodd dri munud yn unig, fe gadarnhaodd Mathews ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni a’i fod yn deall y cyhuddiad.
Un o fil
Roedd Sharon Wall yn 53 oed ac yn gweithio fel cymhorthydd yn yr ysbyty sy’n trin cleifion sy’n diodde o afiechydon meddyliol difrifol.
Dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod wedi bod “yn un o fil” gan ofyn am heddwch i alaru yn breifat.