Y Fonesig Rosemary Butler AC (Llun: Flickr Cynulliad)
Mae Llywydd y Senedd, Rosemary Butler wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddeol ymhen dwy flynedd.

Mae wedi cynrychioli Gorllewin Casnewydd fel Aelod Cynulliad ers 1999 ac fe gafodd ei hethol yn Llywydd yn 2011 gan olynu’r Llywydd cyntaf, yr Arlgwydd Dafydd Elis-Thomas.

Roedd eisoes wedi bod yn aelod o gabinet Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Addysg dan Alun Michael.

Gadawodd y cabinet pan ddaeth Rhodri Morgan yn Brif Weinidog a’i phenoi yn gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chwaraeon ac yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad.

Bu hefyd yn gynghorydd ar gynghorau Caerleon a Chasnewydd ac yn faer y dref, fel yr oedd hi pryd hynny, o 1989 i 1990.

Wrth gyhoeddi’r newyddion yn y South Wales Argus dywedodd ei bod wedi mwynhau ei chyfnod fel Aelod Cynulliad.

“Dwi’n credu beth bynnag mai 2016 fydd yr amser priodol i mi ddilyn trywydd a diddordebau eraill a chwilio am sialensau newydd,” meddai.

Cafodd ei anrhydeddu’n Fonesig gan y Frenhines yn 2013 am ei chyfraniad i fywyd gwleidyddol a chyhoeddus, yn arbennig o safbwynt merched.