Llun: gwefan yr SNP
Mae 41% o etholwyr bellach o blaid annibyniaeth i’r Alban yn ôl arolwg barn diweddaraf cwmni Survation ar gyfer papur y Daily Record yn y wlad.
Mae hyn yn gynnydd o 2% ers arolwg diwethaf y cwmni ym mis Mehefin.
Ar y llaw arall mae’r arolwg hefyd yn dangos cynnydd o 2% hefyd i 46% yn nifer y rhai sydd am bleidleisio yn erbyn.
Golyga hyn bod mwy a mwy o bobl yn penderfynu sut mae nhw am bledleisio gyda dim ond ychydig dros ddeufis tan y refferendwm ar 18 Medi.
13% sydd bellach yn dal heb benderfynu’r naill ffordd na’r llall.
Ymateb
Mae’r Athro John Curtice o Brifysgol Strathclyde yn arbenigwr ar arolgyon barn ac mewn erthygl ar wefan What Scotland Thinks mae’n dweud bod yr arolwg diweddaraf yn profi bod gan yr ymgyrch ‘Ie’ dipyn go lew o waith i’w wneud o hyd os ydyn nhw am lwyddo.
“Gyda ychydig dros ddeufis i fynd mae hyd yn oed cwmni fel Survation, sy’n paentio llun gweddol optimistaidd ar gyfer cefnogwyr ‘Ie’ yn dal i roi ‘Na’ ar y blaen. Mae hyn yn awgrymu bod rhaid i ‘Ie’ wneud rhagor o waith os ydi buddugoliaeth yn edrych yn obaith realistig.”
Mae Blair Jenkins, Prif Weithredwr ymgyrch ‘Ie i’r Alban’ wedi ei blesio’n arw gan yr arolwg beth bynnag.
“Mae ein neges yn treiddio i’r etholwyr, “ meddai. “Dim ond newid o 3% sydd ei angen bellach i gael mwyafrif dros ‘Ie”.
Ar y llaw arall, cafodd arweinydd ymgyrch ‘Gwell gyda’n Gilydd’ sydd yn erbyn annibyniaeth hefyd ei blesio.
“Dyma’r trydydd arolwg yn ystod yr wythnosau diwethaf i ddangos cynnydd o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Blair McDougall.
“Wrth i’r refferendwm agosau mae’r Albanwyr yn meddwl o ddifrif am effaith gwahanu ar y bunt, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.