Baghdad
Mae gwrthryfelwyr Islamaidd wedi meddiannu rhagor o dir y Swnni yn Irac, gan feddiannu tref Tikrit, wrth i filwyr a’r lluoedd diogelwch ildio rhagor o dir.

Mae’r datblygiadau diweddaraf wedi codi pryderon na fydd Prif Weinidog Irac Nouri al-Maliki, yn gallu atal y gwrthryfelwyr wrth iddyn nhw agosáu at Baghdad.

Mae Nouri al-Maliki wedi ei chael hi’n anodd cadw rheolaeth yn y wlad yn dilyn etholiadau amhendant.

Roedd y grŵp milwriaethus, Islamic State of Iraq and the Levant (ISIL), wedi meddiannu’r rhan fwyaf o ail ddinas fwyaf Irac, Mosul, yr wythnos hon, gan orfodi i bron i hanner miliwn o bobl i ffoi o’u cartrefi.