Louise Hughes (Llun Cyngor Gwynedd)
Mae copi o sgwrs facebook sydd wedi dod i law golwg360 yn awgrymu bod ffrae wedi codi ym mhlaid wleidyddol Llais Gwynedd tros ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau nesaf.
Yn ôl rhai o gefnogwyr a ffrindiau’r cynghorydd Louise Hughes o Lanegryn, roedd cyfarfod blynyddol y blaid yn euog o hiliaeth wrth wrthod ei dewis yn ymgeisydd ar ran ardal Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau nesaf San Steffan.
Roedd o leia’ un aelod, meddai, wedi dweud na fyddai’n ei chefnogi am nad oedd yn siarad Cymraeg.
Gwrthod yr honiadau wnaeth y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, un o arweinwyr y blaid, gan ddweud na fyddai ymgeisydd yn cael ei gwrthod ar sail iaith ac mai penderfyniad y blaid oedd peidio â dewis ymgeisydd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Y ddadl
Fe ddechreuodd y ddadl ar ôl i Louise Hughes ddod yn ôl o Gyfarfod Blynyddol Llais Gwynedd ddydd Sadwrn pan oedd ymgeiswyr yn cael eu dewis.
Mewn sylw ar ei thudalen facebook awgrymodd na chafodd gefnogaeth am nad oedden nhw’n teimlo ei bod ei Chymraeg “yn ddigon da”.
Mewn un neges, mae’n amau os nac yw’n ddigon Cymraeg i hynny efallai nad yw’n ddigon Cymraeg i’w phlaid. Mae hefyd yn awgrymu ei bod wedi cael “cyllell yn ei chefn”.
Poethi
Fe wnaeth y ddadl boethi wrth i rai o gefnogwyr Louise Hughes ddweud bod ymddygiad rhai o aelodau Llais Gwynedd tuag ati yn “hiliol” ac yn “sarhaus”.
“Pe byddai llond dwrn o gynghorwyr y sir hon yn gweithio mor galed â’r foneddiges hon, byddai llawer mwy o siawns gennym oroesi,” meddai un cefnogwr.
Roedd y darpar ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad, Seimon Glyn, wedi ymuno yn y drafodaeth gan ddweud mai mater o ddiwylliant oedd iaith, nid hil, a bod yr honiad o hiliaeth yn “gamarweiniol”.
‘Plaid Ddemocrataidd’
Dywedodd Alwyn Gruffydd, llefarydd ar ran Llais Gwynedd, fod y blaid yn un “ddemocrataidd” na fuasai’n gwrthod ymgeisydd ar sail iaith.
“Efallai ei fod yn ffactor i rai aelodau nad yw Cymraeg ymgeisydd yn ddigon da ond dw i ddim yn meddwl fod hynny yn dal dŵr yn fan hyn gan fod Louise Hughes eisoes wedi sefyll fel ymgeisydd yn etholiad diwethaf y Cynulliad,” meddai.
“Mae hi’n ddysgwraig ddygn iawn a fasa Llais Gwynedd ddim yn gwrthod neb ar sail iaith.
“Fe gawsom ni gyfarfod i drafod y mater a’r penderfyniad oedd peidio dewis ymgeisydd i sefyll ar ran Dwyfor Meirionydd yn etholiad San Steffan.”
Mae golwg360 wedi cysylltu gyda Louise Hughes ond doedd hi ddim yn fodlon trafod y mater.