Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod dyn 23 oed wedi cael ei arestio yn Aberystwyth y prynhawn yma ar amheuaeth o ymddygiad anweddus.

Cafwyd adroddiadau’n gynharach yn y prynhawn fod nifer o geir yr heddlu wedi’u gweld yn ardal Penglais y dref, a bod hofrennydd wedi bod yn hedfan dros Aberystwyth am o leiaf chwarter awr.

Mae’r heddlu nawr wedi cadarnhau fod hyn yn gysylltiedig â dyn ifanc gafodd ei arestio’r prynhawn yma.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi ymateb i adroddiadau o ymddygiad anweddus yn y dref.

“Derbyniodd Heddlu Dyfed Powys ddau adroddiad o ddinoethi anweddus y prynhawn yma – un yn ardal Penglais ac un yn ardal ganol tref Aberystwyth,” meddai’r datganiad.

“Fe ddechreuodd ymholiadau’n syth, oedd yn cynnwys cymorth gan hofrennydd yr heddlu ac mae dyn 23 oed wedi’i arestio. Mae yn y ddalfa.”