Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos cyn benaethiaid y News of the World sydd wedi’u cyhuddo o gynllwynio i hacio ffonau.
Mae’r cyn-olygyddion Rebekah Brooks ac Andy Coulson ynghyd a’r rheolwr olygydd Stuart Kuttner wedi’u cyhuddo o fod yn rhan o’r cynllwyn sy’n dyddio nôl i 2000.
Dros 130 o ddyddiau, mae’r rheithgor yn yr Old Bailey wedi clywed tystiolaeth ynglŷn â’r achos.
Mae Coulson, 46, wedi’i gyhuddo o ddau achos o gynllwynio gyda chyn olygydd brenhinol y News of the World, Clive Goodman, 56, i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy dalu swyddogion yr heddlu am wybodaeth ynglŷn â’r teulu brenhinol.
Mae Brooks, 46, hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad o ganiatáu taliadau i gysylltiad milwrol un o ohebwyr y Sun rhwng 2004 a 2012.
Mae cyn brif weithredwr News International (NI) hefyd wedi’i chyhuddo o gynllwynio gyda’i chyn gynorthwyydd personol Cheryl Carter, 50, i wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy symud saith bocs o archifau’r cwmni ddyddiau’n unig cyn iddi gael ei harestio yn 2011.
Ynghyd a’i gwr Charlie, a chyfarwyddwr diogelwch NI, Mark Hanna, 51, mae Brooks hefyd wedi’i chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio tystiolaeth posib rhag yr heddlu ym mis Gorffennaf 2011.
Mae’r chwech yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.