Tywysog Charles
Fe all hyd at 100 o bobol golli eu swyddi gydag  Ymddiriedolaeth y Tywysog oherwydd cynlluniau i dorri costau gweinyddol, yn ôl pennaeth yr elusen.

Ar ôl wynebu toriadau o £2.8 miliwn y llynedd, dywedodd y prif weithredwr Martina Milburn y bydd y mwyafrif o’r swyddi yn mynd ym mhencadlys yr elusen yn Llundain.

Y Tywysog Charles yw sylfaenydd yr elusen sy’n rhoi cymorth i bobol ddi-waith rhwng 13 a 30 oed ym Mhrydain.

Mae cyfnod ymgynghorol ar droed gyda’r 1,300 o weithwyr, a bydd rhwng 50-100 ohonyn nhw’n colli eu swyddi. Mae 12 o swyddfeydd mewn llefydd fel Caerdydd, Sir Benfro, Llundain, Glasgow,  a Belfast.

‘Cymhleth’

“Mae’r system yn ein pencadlys wedi troi’n gymhleth felly fe fydd yn rhaid i ni gwtogi ar staff a gwarchod ein gwasanaethau er mwyn cael ein hunain yn ôl ar y trywydd iawn,” meddai Martina Milburn wrth siarad ar Radio 4.

“Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod ein costau gweinyddol mor isel â phosib a bod yr arian yn mynd yn syth i helpu’r bobol ifanc.”

Ychwanegodd fod y Tywysog Charles yn ymwybodol o’r newidiadau fydd yn digwydd o fewn y gweithlu.

Roedd Martina Milburn hefyd yn pwysleisio nad yw’r elusen mewn dyled a bod ganddyn nhw £22miliwn wrth gefn.