Malcolm Fyfield
Mae’r cyfreithwyr yn achos llys rheolwr pwll glo’r Gleision wedi bod yn crynhoi eu dadleuon yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Mae Malcolm Fyfield a pherchnogion y pwll, MNS Mining yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad a dynladdiad corfforaethol trwy esgeulustod difrifol.
Cafodd pedwar o lowyr eu lladd yn 2011 pan lifodd galwyni o ddŵr i mewn i’r pwll ger Pontardawe.
Bu farw Philip Hill (44), Charles Breslin (62), David Powell (50) a Garry Jenkins (39) yn y trychineb.
Llifodd 650,000 o alwyni o ddŵr i mewn i’r pwll yn dilyn ffrwydrad i dorri glo brig.
Roedd Fyfield, 58, wedi bod yn rheolwr ers ychydig wythnosau’n unig.
Roedd wedi gorchymyn uno dau ran o’r pwll er mwyn gwella ansawdd yr aer y tu mewn i’r pwll.
Y dadleuon
Mae’r erlyniad yn honni y dylai Fyfield fod wedi sylweddoli bod y gweithwyr yn ceisio torri trwy’r glo brig ar y pryd.
Dywedodd cyn-reolwr y pwll, Ray Thomas, un o dystion yr erlyniad, ei fod e wedi cael sgwrs â Fyfield am ran beryglus o’r pwll oedd i’w weld ar fap o’r safle.
Dywedodd cyn-reolwr arall, John Brosnan ei fod e wedi dweud wrth Fyfield fod angen caniatâd arbennig i gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Fyfield wrtho na fyddai angen caniatâd gan ei fod e eisoes wedi cynnal archwiliad y diwrnod blaenorol, ac fe ddywedodd nad oedd dŵr y tu mewn i’r pwll.
Mae’r erlyniad yn honni na chafodd yr archwiliad ei gynnal oherwydd bod y pwll eisoes o dan ddŵr.
Maen nhw hefyd yn dadlau y dylai Fyfield wedi rhwystro un o’r gweithwyr – Philip Hill – rhag ffrwydro’r glo brig.
Yr amddiffyniad
Ond dywed yr amddiffyniad fod archwiliad diogelwch wedi’i gynnal cyn cwblhau’r ffrwydrad a bod y digwyddiad yn ddamwain drasig a gafodd ei achosi gan ddŵr yn llifo i mewn i’r pwll dros nos.
Dywedodd un o dystion yr amddiffyniad, yr arbenigwr hydroleg Dr Alan Cobb fod “posibilrwydd realistig” y gallai’r dŵr fod wedi cronni dros nos.
Dywedodd y gallai’r dŵr fod wedi symud ar gyfradd o 50 litr yr eiliad dros gyfnod o 18 awr.
Ond dywed yr erlyniad ei fod yn “ormod o gyd-ddigwyddiad”.
Mae’r achos yn parhau.