Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud y bydd rhagor o staff ac adnoddau mewn lle i ddelio gyda’r cynnydd mewn ceisiadau pasbort.
Mae undebau’n honni mai cael gwared a swyddi sydd ar fai am y cynnydd o fwy na 500,000 yn nifer y ceisiadau sy’n aros i gael eu hystyried.
Ond yn ol Theresa May, mae’r cynnydd o ganlyniad i nifer “uchel iawn, iawn” o geisiadau ar ddechrau 2014 ac mae’n cydnabod y bydd teuluoedd yn bryderus am gael eu pasborts yn ôl mewn pryd ar gyfer eu gwyliau.
Ond mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn dweud bod y Swyddfa Basbort mewn “argyfwng” a bod colli 300 o swyddi a chau 20 o swyddfeydd dros y pum mlynedd diwethaf wedi cyfrannu at yr oedi wrth ddelio gyda’r ceisiadau.