Obama - o blaid Japan
Mae Barack Obama wedi dweud bod yr Unol Daleithiau’n barod i ymyrryd mewn ffrae rhwng Japan a China tros glwstwr o ynysoedd.
Mae’r ddwy wlad yn ceisio hawlio ynysoedd ym Môr Dwyrain China.
Yn ystod ymweliad ag Asia, galwodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar i’r ddwy wlad roi’r gorau i’r ffrae.
Ond mae’n gwrthod dweud ym meddiant pwy ddylai’r ynysoedd fod, er mai Japan sydd wedi bod yn gyfrifol am eu gweinyddu ers arwyddo cytundeb i’r perwyl hwnnw.
Mae llywodraeth China wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad Obama a’i gefnogaeth debygol i Japan.
Maen nhw’n honni na ddylai’r ynysoedd gael eu cynnwys yn y cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a Japan.
Mae llywodraeth Obama wedi gwadu bod taith yr Arlywydd yn ymgais i leihau grym China tros weddill gwledydd cyfandir Asia.