Y ddiweddar Margo MacDonald
Fe fydd dathliad o fywyd Aelod Seneddol yr SNP, Margo MacDonald yn cael ei gynnal yng Nghaeredin fory.
Bu farw Aelod Seneddol Lothian yn 70 oed ar Ebrill 4, ar ôl dioddef o afiechyd Parkinson. Roedd yn aelod o’r SNP cyn treulio cyfnod yn aelod seneddol annibynnol.
Mae disgwyl i’w chydweithwyr, ei theulu a’i ffrindiau ddod at ei gilydd yn Neuadd y Cynulliad i dalu teyrnged iddi. Neuadd y Cynulliad oedd cartref Senedd Yr Alban am bum mlynedd yn dilyn datganoli.
Bydd y gynulleidfa’n clywed gan ei gŵr, yr Aelod Seneddol Jim Sillars, Ysgrifennydd Iechyd Yr Alban Alex Neil a’r actores Elaine C Smith. Y grŵp Albanaidd poblogaidd ‘The Proclaimers’ fydd yn dod â’r gwasanaeth i ben trwy berfformio ‘Sunshine on Leith’.
Mae gwahoddiad agored i’r cyhoedd fynychu’r gwasanaeth, sy’n cael ei ddisgrifio fel “dathliad” yn hytrach na gwasanaeth coffa.
Yn ystod ei gyrfa wleidyddol, roedd Margo MacDonald yn ymgyrchydd brwd tros gyfreithloni helpu pobol i gyflawni hunanladdiad. Cynhaliwyd ei gwasanaeth angladdol ar Ebrill 11, ac fe gafodd teyrngedau eu rhoi iddi yn Holyrood ddydd Mawrth yr wythnos hon.