Catrin Williams sydd yn holi a fydd pobl yn llyncu neges y blaid ar fewnfudo …
Gydag ychydig o dan fis i fynd nes etholiadau’r Undeb Ewropeaidd ar 22 Mai, gallwn weld y cynnwrf a’r dadlau unwaith yn rhagor yn dod i wyneb.
Y prif fygythiad yn ôl llawer yw UKIP, plaid Nigel Farage, wrth iddo ymdrechu i ddychryn a defnyddio propaganda er mwyn ennill pleidleisiau – gan ei fod yn awyddus i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Ddechrau’r wythnos bu iddo wirioneddol ddechrau ar ei ymgyrchu, wrth iddo lansio ei ymgyrch yn ffurfiol a gado daeargryn wleidyddol os byddai yn llwyddiannus yn yr etholiadau.
Mae digonedd o arian tu ôl i’r ymgyrch yma, ar ôl i UKIP fod yn ddigon ffodus i gael £1.5 miliwn gan y cyn-Geidwadwr Paul Sykes, gyda’r bwriad i greu ymgyrch gyhoeddus sydd yn adlewyrchu’r ‘gwirionedd caled’ am yr Undeb.
Posteri hiliol? Gallwn weld hyn wrth iddo gyhoeddi cyfres o bosteri , sydd wedi cael eu barnu yn llym gan y cyhoedd.
Bu i lawer o wleidyddion honni fod y gyfres o bosteri yma yn hiliol, ac yn cyflwyno ffeithiau sydd ddim yn hollol wir.
Megis bod 26 miliwn o bobol yn yr Undeb yn chwilio am waith, gydag awgrym cryf iawn eu bod nhw i gyd yn chwilio am waith yn y Deyrnas Unedig – ac felly mewn ffordd yn ceisio dwyn ein swyddi ni.
Ond, er efallai fod 26 miliwn yn ddi-waith, nid yw hyn am eiliad yn golygu eu bod nhw i gyd yn ceisio am waith yma, ac unwaith yn rhagor, gallwn weld enghraifft wych o UKIP yn ceisio dychryn y rhai mwy diniwed yn ein cymdeithas. Gwadu’r cyhuddiadau yma o fod yn hiliol a wnaeth Farage – unwaith yn rhagor!
BNP a UKIP Bu i lawer dynnu sylw tuag at y ffaith fod tebygrwydd mawr rhwng posteri’r BNP (British Nationalist Party) gyda phosteri UKIP. Sydd unwaith yn rhagor ond yn cyfrannu tuag at y ddelwedd yma eu bod nhw yn hiliol. Aeth yr Arglwydd Debden cyn belled a dweud fod UKIP yn sefyll dros y gwaetha’ mewn bodau dynol ac felly sut y gallwn ni eistedd yn ôl a gadael i’r fath ddyn a’i blaid wleidyddol barhau?
Efallai ymhen ychydig o fisoedd, neu flynyddoedd fe fydd hi’n rhy hwyr i roi terfyn ar dwf y blaid yn y Deyrnas Unedig – ac yng Nghymru yn ogystal.
Rhagrithiwr?
Ond, er bod Farage mor benderfynol ei fod yn erbyn mewnfudo, ac eisiau sicrhau fod swyddi yn y Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi i bobol y wlad, bu iddo gyflogi Almaenes fel ei ysgrifenyddes.
Fel mae’n digwydd, ei wraig yw’r Almaenes honno. Onid yw hyn yn rhagrithio popeth y mae Farage yn honni iddo sefyll drosti?
Bu i Nick Robinson, gohebydd gwleidyddol i’r BBC, ei herio ar y mater yma. Honnodd Farage na all neb arall wneud y swydd yma, ac felly nad oedd hi wedi cymryd swydd rhywun Prydeinig. Aeth Robinson yn ei flaen i ddweud fod Farage felly yn dweud na all neb Prydeinig weithio fel ysgrifennydd iddo gan ei bod yn swydd sydd angen ymrwymo yn hollol iddo.
Ond ffordd Farage yw hyn mewn gwirionedd o geisio dweud ein bod yn genedl sydd yn dwp – ac felly bod angen pobol o’r Undeb Ewropeaidd i wneud y gwaith na allwn ei wneud? P
wy a ŵyr beth mae wir yn ei olygu, ac felly cawn ddarlun aneglur o’r hyn y mae’n sefyll dros.
Polisïau UKIP
Mae hyn yn codi’r cwestiwn felly o beth yn union yw polisi UKIP ynglŷn â mewnfudo? Oherwydd yn ôl beth rydym ni’n ei glywed mae’n ymddangos fel petai’r blaid yn gwrthwynebu mewnfudo’n llwyr.
Ond dywedodd Farage wrth y BBC ei fod eisiau lleihau’r mewnlifiad, a sicrhau mai dim ond y rhai â chrefft fyddai’n cael dod i Brydain, er ei fod hefyd yn edrych fel petai eisiau agor y drws i fewnfudo o India a Seland Newydd.
Sydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn deall beth yw gwir bolisi UKIP ynglŷn â mewnfudo – gan ei fod yn edrych yn amlwg nad ynddynt yn rhy saff ei hunain beth maent yn ceisio ei gyflawni.
Statws seleb
Un peth sydd yn bendant wedi dod i’r amlwg yw bod yr annwyl Farage eisiau sicrhau fod ganddo statws seleb yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi cael llawer iawn o amser ar y teledu – o’r ddadl rhyngddo ef a Nick Clegg i raglen ar Sianel 4 a oedd yn dilyn hanes ei fywyd – mewn ymgais i geisio ei bortreadu fel ‘un ohonom ni’. Mae hyd yn oed yn hyrwyddo ei hashnod ei hun ar gyfer Twitter!
Drwy hyn oll mae wedi llwyddo i ffurfio cwlt o bobol sydd yn ei addoli i’r eithaf. Tybiaf fod siawns gref nad ydynt yn deall ei bolisïau, ond yn hytrach yn teimlo eu bod yn gallu uniaethu gyda’r dyn yma.
Heb os mae’r hyn y mae UKIP yn ei wneud yn sicrhau fod pobol yn siarad am y blaid – a minnau yn hollol euog o hynny.
Mae Farage wedi llwyddo i greu delwedd ohono ei hun fel dyn sydd yn wahanol i’r gwleidyddion eraill – er iddo yntau wrthod ar amryw o achlysuron ddweud faint o arian y mae wedi ei dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd – wrth gofio ei fod yn cael £3,580 bob mis i wneud fel ag y mynnai.
Gallaf ond obeithio na fydd y cyhoedd yn llyncu’r hyn oll y mae Farage yn ei honni Ond wrth glywed ambell i Gymro Cymraeg yn dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio UKIP am fod gormod o fewnfudo i’r ardal (o Loegr y mwyafrif!), pwy all ddweud beth fydd canlyniad etholiad Mai – a goblygiadau hyn mewn gwirionedd ar y Deyrnas Unedig.