Mae ymgyrchwyr yn galw ar drigolion Bro Morgannwg i beidio â mynd i weld syrcas anifeiliaid sydd wedi cyrraedd tref Y Bari’r wythnos hon.
Yn ôl Animal Defenders International, mae Syrcas Mondao yn un o ddwy syrcas sy’n dal i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt fel camelod a cheirw yn eu perfformiadau.
Dywed y sefydliad bod anifeiliaid mewn syrcas yn cael eu gorfodi i fyw mewn amgylchiadau creulon sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u bod nhw’n aml yn cael eu trin yn “greulon”.
Mae 25 o wledydd ledled y byd eisoes wedi gwahardd y defnydd o anifeiliaid yn gyfan gwbl neu anifeiliaid gwyllt mewn syrcas.
‘Creulon’
“Mae anifeilaidd sy’n cael eu defnyddio mewn syrcas sy’n teithio yn gorfod bod ar y lôn am bron i flwyddyn gyfan ac mae’n rhaid iddyn nhw ddioddef amgylchiadau byw creulon,” meddai prif weithredwr Animal Defenders International, Jan Creamer.
“Rydym yn annog pawb yn ardal Y Bari i osgoi unrhyw syrcas anifeiliaid a mynd i rai gyda phobol yn perfformio ynddyn nhw – maen nhw’n cael y dewis i wneud.”
Bydd gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau syrcas yn dod i rym yng ngwledydd Prydain ym mis Rhagfyr 2015.