Jimmy Savile - fe sefydlwyd Ymchwiliad Yewtree yn dilyn honiadau o gam-drin
Mae adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dadlau bod llai o bobol yn adrodd am droseddau rhyw hanesyddol ers i ymchwiliad Yewtree ddechrau ar ei waith.
Er hynny, mae nifer yr adroddiadau am droseddau rhyw cyfoes wedi cynyddu ers i Heddlu Scotland Yard lansio’r ymchwiliad yn dilyn honiadau yn erbyn y cyflwynydd Jimmy Savile.
Yn 2013, roedd cynnydd o 17% yn nifer y troseddau a gafodd eu cofnodi gan yr heddlu.
Ond o blith y ffigwr hwnnw, ychydig dros un allan o bob pump yn unig oedd yn drosedd hanesyddol.
Mae’r heddlu’n diffinio trosedd hanesyddol fel un a ddigwyddodd mwy nag 20 mlynedd yn ôl.
Adroddiad Prifysgol Caerdydd
Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd am droseddau a gafodd eu cofnodi gyda’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, cafodd 12% yn llai o droseddau treisgar eu cofnodi’r llynedd na’r flwyddyn gynt.
Ond roedd cynnydd o 26% yn nifer y troseddau treisgar a gafodd eu cofnodi yng Ngwent.
Dywedodd Gweinidog Atal Torcyfraith Llywodraeth Prydain, Norman Baker: “Rydym yn hyderus fod Cymru a Lloegr yn fwy diogel nag y buon nhw ers degawdau, gyda thorcyfraith ar ei isaf ers i’r arolwg ddechrau yn 1981.”
Hyd yma, mae nifer o bobol enwog a chyn-weithwyr y BBC wedi eu canfod yn ddieuog o droseddau rhyw hanesyddol.
Mae’r rhestr yn cynnwys Dave Lee Travis sy’n wynebu ail brawf, y comedïwyr Jimmy Tarbuck a Jim Davidson, a chyn-gynhyrchwyr y BBC Ted Beston a Wilfred De’ath.