Mi fydd rhai o enillwyr prif gystadlaethau llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn cael cynnig mynd i berfformio dros y dŵr ac eraill yn derbyn mwy o wobrau ariannol.
Yn ôl trefnydd y Brifwyl, mae diddordeb rhyngwladol yn enillwyr y Rhuban Glas, yn arbennig – ac felly fe fydd gwahoddiad yn cael ei estyn i ganu yn Awstralia, fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne.
Hefyd, am yr ail flwyddyn yn olynol, mi fydd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Ysgoloriaeth William Park-Jones ac Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain, y Rhuban Glas i’r rheini dan 25 oed, yn cael cyfle i berfformio yn America.
‘Llwyfan rhyngwladol’
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: “Mae datblygu’r Eisteddfod ar y llwyfan rhyngwladol yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i ni’i wneud yn y dyfodol, ac mae’n ardderchog ein bod ni’n gallu cychwyn ar y gwaith hwn wrth gyhoeddi cyfleoedd i enillwyr berfformio yn America ac yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.
“Ac mae ysgoloriaethau i gynnig hyfforddiant pellach i unawdwyr ifanc yn sicr o apelio at ein cystadleuwyr.”
Gwobrau ychwanegol
Bydd gwobr ychwanegol hefyd yn cael ei roi i‘r unawdydd benywaidd a’r unawdydd gwrywaidd mwyaf addawol sy’n cystadlu yng nghystadlaethau’r unawdau ar gyfer y rhai rhwng 19 a 25 oed.
Bydd y ddau enillydd yn derbyn £2,500 yr un i’w galluogi i dderbyn hyfforddiant pellach mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig neu gan athro llais adnabyddus.