Mared Lenny (Llun oddi ar ei gwefan)
Mae’r gyn-gantores, Mared Lenny, yn arddangos ei gwaith celf yn ystod Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr ym mis Mehefin.

Daeth y ferch o Gaerfyrddin i amlygrwydd fel cantores o dan yr enw Swci Boscawen.

Ond trôdd ei sylw at arlunio ar ôl dioddef o ganser yr ymennydd yn 2010, a hithau ond yn 26 oed.

Mae’n arlunio o dan yr enw Swci Delic, a bydd ei gwaith i’w weld yn ardal Dinefwr o ddechrau mis Mehefin.

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, mae’r enw Swci Delic yn addas gan fod ei gwaith ar “gynfasau mawr sy’n taro’r llygad yn syth; celf bop â lliwiau’n gwrthdaro, sy’n rhoi cipolwg ar gyflwr ymennydd sy’n brwydro cancr”.

Ymennydd yn creu patrymau

Mae hi eisoes wedi cynllunio gwaith celf i gerddorion, wedi paentio bwrdd ping pong a chynhyrchu esgidiau arbennig.

Ar ei gwefan, dywed am y profiad o droi at fyd celf: “Wrth i mi geisio ffeindio fy ffordd o gwmpas y ffordd newydd yma o fyw, roedd y gwacter roeddwn yn ei deimlo heb y gerddoriaeth yn cael ei lenwi gyda’r angen enfawr i beintio.

“Mae f’ymennydd yn peri i fi greu patrymau mawr a beiddgar gan ddefnyddio cymaint o liw â phosib.

“Fe wnaeth rhywbeth glicio ynof fi, ac fe dyfodd y paentio yn obsesiwn.”