Oscar Pistorius
Mae’r prif erlynydd yn achos llys Oscar Pistorius wedi gofyn i’r barnwr wahardd darlledu tystiolaeth gan yr arbenigwr a wnaeth yr archwiliad post-mortem ar Reeva Steenkamp a gafodd ei lladd gan yr athletwr.
Mae’r achos llys yn Pretoria wedi cael ei ohirio tra bod y barnwr yn penderfynu a ddylai tystiolaeth yr Athro Saayman, gael ei darlledu ar y radio a theledu.
Dywedodd yr erlynydd, Gerrie Nel, fod tystiolaeth yr Athro Gert Saayman, pennaeth yr adran meddygaeth fforensig ym Mhrifysgol Pretoria, o natur graffig ac na ddylid ei ddarlledu o gwmpas y byd.
Roedd Oscar Pistorius, 27, wedi saethu Reeva Steenkamp bedair gwaith drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref ar Ddydd San Ffolant y llynedd, ond mae’n honni ei fod yn credu mai lleidr oedd hi.
Fe blediodd yr athletwr Paralympaidd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddio ei gariad ar gychwyn yr achos.
Cyn i’r achos gael ei ohirio heddiw, clywodd y llys gan swyddog diogelwch a ddywedodd ei fod wedi siarad â Pistorius yn fuan ar ôl y saethu.
Os all yr amddiffyniad brofi bod Pistorius wedi ffonio’r swyddog diogelwch yn syth, bydd hynny’n cefnogi ei honiad ei fod wedi ceisio cael cymorth cyn gynted ag y bo modd.