Mae’r gwasanaethau tân ac achub yn wynebu “argyfwng” oherwydd toriadau cyllid gan y Llywodraeth a fydd yn effeithio ar eu gallu i ymateb i argyfyngau brys cenedlaethol yn y dyfodol.

Dyna farn y Gymdeithas Awdurdodau Lleol (LGA), wrth i wasanaethau tân baratoi am flwyddyn ariannol newydd gyda thraean yn llai o gyllid na beth oedd ar gael bedair blynedd yn ôl.

Mae disgwyl i 10% yn rhagor gael ei dorri yn 2015/16 a fydd yn arwain at fwy o “benderfyniadau anodd”.

Dywed y Gymdeithas Awdurdodau Lleol, sy’n cynrychioli’r 46 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru a Lloegr, fod rhaid rhoi’r cyllid angenrheidiol i’r gwasanaethau er mwyn iddyn nhw allu rhoi’r “gwasanaeth fwyaf effeithlon i’r gymuned.”

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gydweithio gyda ni, er mwyn chwalu’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag uno gyda gwasanaethau tân eraill ar hyn o bryd”, meddai Kay Hammond, Cadeirydd pwyllgor gwasanaethau tân yr LGA.

Mae’r LGA yn galw ar weinidogion i warchod awdurdodau lleol rhag gorfod gwneud mwy o doriadau, ac i roi cefnogaeth i wasanaethau tân sy’n ystyried uno neu rannu gwasanaethau.