Teuluoedd yn aros am newyddion am y rhai sydd ar goll
Mae timau achub wedi methu a dod o hyd i unrhyw weddillion o’r awyren Boeing 777, Malaysia Airlines, a ddiflannodd oddi ar sgriniau radar yn ystod oriau mân 8 Mawrth.
Roedd ar ei ffordd i Beijing, prifddinas China, gyda 239 o deithwyr ar ei bwrdd a chredir iddi ddiflannu tuag awr ar ôl cychwyn ar ei thaith o Kuala Lumpur.
Mae 40 cwch a 34 awyren wedi bod yn chwilio’r môr ers y diflaniad, ac mae ymchwilwyr yn ystyried “pob posibilrwydd” er mwyn ceisio esbonio sut aeth yr awyren ar goll – gan gynnwys ei bod wedi cael ei herwgipio.
“Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw beth sy’n ymddangos fel gweddillion o’r awyren”, meddai Azharuddin Abdul Rahman, pennaeth llu awyr Malaysia.
Yn ôl adroddiadau, roedd dau deithiwr ar yr awyren yn teithio gyda phasborts a oedd wedi cael eu dwyn. Er hyn, nid oes cadarnhad fod y ddau ddyn yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Pyllau olew
Fe ddaeth llu awyr Fietnam o hyd i ddau bwll mawr o olew ger penrhyn deheuol Fietnam, wrth iddyn nhw chwilio am yr awyren yn gynnar fore Sadwrn.
Mae awdurdodau yn meddwl y gallai’r olew fod wedi dod o’r awyren ac mae profion yn cael eu cynnal ar sampl o’r olew.
Mae cannoedd o berthnasau’r bobol a oedd yn teithio ar yr awyren yn disgwyl am newyddion mewn gwesty yn Beijing.