Mae disgwyl i economi’r DU dyfu i’r hyn yr oedd cyn y dirwasgiad erbyn yr haf, yn ôl rhagolygon grŵp o arweinwyr busnes.

Mae Siambrau Masnach Prydain (BCC) yn rhagweld y bydd yr economi yn tyfu 2.8% eleni ac y bydd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yn codi i’r un lefel ag yr oedd yn chwarter cyntaf 2008.

Y llynedd, roedd y BCC wedi rhagweld na fyddai GDP yn codi tan 2016 ond maen nhw bellach yn credu y bydd y twf i’w weld erbyn trydydd chwarter 2014 ym mis Rhagfyr.