Eryri
Mae dyn wedi marw ar ôl iddo lithro dros 100 troedfedd wrth gerdded ar fynydd yn Eryri bnawn ddoe.

Bu farw’r dyn 60 oed o dde Lloegr wrth iddo gerdded ar Ben yr Helgi Ddu ger y Carneddau, sy’n 2,733 troedfedd.

Roedd yn cerdded gyda grŵp o wyth o bobol eraill ar y pryd ac roedd ganddynt y cyfarpar addas ar gyfer taith gerdded, yn ôl adroddiadau.

Cafodd ei gludo gyda hofrennydd o’r Fali i Ysbyty Bangor ond nid oedd posib ei achub.