Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gi a ymosododd ar ddynes gan ei hanafu’n ddifrifol yn Lincoln.

Mae’r ddynes 22 oed yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad. Mae Heddlu Swydd Lincoln yn credu bod y ci yn fath o ddaeargi Americanaidd.

Bu heddlu arfog a hofrennydd yr heddlu’n chwilio am y ci yn dilyn yr ymosodiad gan rybuddio pobl i gadw draw o’r ardal ger chwarel yn y ddinas.

Dywed yr heddlu bod y ci wedi cael ei ddal tua 1.30yb ac maen nhw wedi cadarnhau nad y  ddynes yw perchennog y ci.

Dyma’r ail ymosodiad gan gi o’r fath – fis diwethaf cafodd merch 11 mis oed, Ava Jayne Marie Corless, ei lladd gan ddaeargi wrth iddi gysgu mewn tŷ yn Blackburn, yn Lancashire.

Cafodd dau gi, gan gynnwys Alaskan Malmute, eu difa ar ôl marwolaeth babi chwe diwrnod oed ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd marwolaeth Eliza-Mae Mullane ar 18 Chwefror.