Mae llywodraeth Sbaen wedi gwrthod rhoi’r hawl i Gatalwnia gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r rhanbarth.

Cafodd cynnig yn gwrthod yr hawl ei dderbyn yn senedd Sbaen heddiw o 272 pleidlais i 43.

Roedd rhai gwleidyddion asgell chwith wedi cefnogi’r cenedlaetholwyr.

Ar hyn o bryd, llywodraeth Sbaen yn unig all alw refferendwm ar annibyniaeth.

Maen nhw eisoes wedi datgan eu safbwynt yn glir, gan fynnu na fyddan nhw fyth yn cynnal refferendwm tra eu bod nhw mewn grym.

Roedd llywodraeth ranbarthol Catalwnia yn ninas Barcelona wedi gobeithio cynnal refferendwm ar Dachwedd 9, ond ni fydd hynny’n digwydd bellach.

Mae polau’n awgrymu y byddai canlyniadau refferendwm ar hyn o bryd yn agos iawn.

‘Dewr’

Dywedodd Berta Gelabert Vilà o Barcelona wrth Golwg360: “Does neb yn gwybod yn sicr beth fydd yn digwydd o ran y refferendwm, a fydd llywodraeth Sbaen yn caniatáu iddo ddigwydd neu beidio.

“Mae’r Sbaenwyr yn dweud y byddan nhw’n ei ganiatáu ar yr amod y caiff Sbaen gyfan bleidleisio, sydd yn warthus, wrth gwrs, gan fod pawb yn gwybod beth fyddai’r canlyniad pe bai hynny’n digwydd.

“Gobeithio y bydd llywodraeth Catalwnia’n ddigon dewr yn y pen draw i gynnal y refferendwm hyd yn oed os nad yw Sbaen yn ei ganiatáu.

“Yma, mae yna ddywediad, ‘Os daw’r heddlu i gymryd y blychau pleidleisio, yna fe fyddwn ni wedi ennill’, sef y byddai gweddill y byd yn gweld sut mae llywodraeth Sbaen yn ymateb.”