Roedd Neuadd Haliwell ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin dan ei sang neithiwr ar gyfer cyfarfod cyhoeddus am ddyfodol S4C.
Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan ymgyrchwyr ‘Yr Egin’, sy’n gobeithio dwyn perswâd ar benaethiaid S4C i symud eu pencadlys i’r dref ac i gampws y Brifysgol.
Ymhlith y rhai oedd yn y cyfarfod neithiwr roedd yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart ac Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith.
Mae disgwyl penderfyniad ynghylch dyfodol cartref S4C ymhen mis, ac mae canolfan newydd yng Nghaerfyrddin yn un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried.
Yr opsiynau eraill yw symud i rywle arall yng Nghaerdydd, aros yn yr adeilad presennol yn y brifddinas neu gartref newydd yng Nghaernarfon.
Roedd y cynlluniau ar gyfer adeilad newydd sbon gwerth £8.5 miliwn yng Nghaerfyrddin yn cael eu harddangos neithiwr.
Pe bai’r ymgyrch yn llwyddo, fe allai olygu creu hyd at 40 o swyddi newydd yn y dref.
Neithiwr, dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, Medwin Hughes: “Byddai adleoli’r sianel i Gaerfyrddin yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iaith, diwylliant ac economi’r ardal.”
Mewn datganiad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd trefnwyr yr ymgyrch eu bod nhw am ddod â “churiad calon Cymru” i Gaerfyrddin.
Roedd nifer sylweddol o’r dorf yn Gymry di-Gymraeg neu’n ddysgwyr, ac mae’r ‘Egin’ wedi sylweddoli pwysigrwydd denu’r gymuned gyfan i fod yn rhan o’r prosiect.
Yn y datganiad, dywedodd yr ymgyrchwyr: “Dyw’r math yma o undod a brwdfrydedd ddim yn digwydd bob dydd, ac mae’n amlwg iawn fod cais Yr Egin yn uno pobl o bob oedran a phob carfan wleidyddol – dim ffiniau, dim rhwystrau, pawb yn cyd-dynnu i geisio cyflawni un nod – denu pencadlys S4C a Chanolfan Greadigol eiconig i’r Gorllewin.
“Fel y clywyd heno, mae’r Gorllewin angen S4C, ac mae S4C angen y Gorllewin.”
Dywedodd Simon Hart ar ei dudalen Trydar y byddai’r prosiect yn hwb i “swyddi, y diwylliant, yr economi a’r iaith gyda’i gilydd”.