David Bowie
Y canwr 67 oed David Bowie, yw’r hynaf erioed i ennill Gwobr Brit – ac wrth dderbyn ei wobr fe apeliodd ar yr Alban i aros yn rhan o’r DU.

Ar ôl saib o 10 mlynedd, fe enillodd y wobr am y canwr gwrywaidd Prydeinig gorau ar ôl ennill y teitl 30 mlynedd yn ôl.

Mewn araith a gafodd ei darllen ar ei ran gan y fodel Kate Moss, dywedodd: “Yr Alban, arhoswch gyda ni.”

Ymhlith yr enillwyr eraill roedd yr Arctic Monkeys ac Ellie Goulding.