Mae 16 o staff yn adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru yn colli eu swyddi.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad staffio.

Yr adran hon sy’n gyfrifol am raglen X-Ray, a rhaglenni rhwydwaith Crimewatch a The One Show.

110 o staff sy’n gweithio yn yr adran.

Yn ôl adroddiadau, fe allai hanner cynhyrchwyr yr adran golli eu swyddi, ac fe allai effeithio ar raglenni sy’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.

Dywed BBC Cymru fod y cyhoeddiad yn adlewyrchu newidiadau mewn anghenion cynhyrchu o ganlyniad i arbedion ansawdd.

Ond maen nhw hefyd yn dweud y bydd y newidiadau’n codi safonau cynhyrchu.

Bydd angen i BBC Cymru arbed £10.7 miliwn erbyn 2017 oherwydd newidiadau i’r drwydded.

Gallai hynny olygu dileu dros 100 o swyddi yn y tair blynedd nesaf.

Mae 46 aelod o staff eisoes wedi cael eu symud i adrannau eraill.